Rebecca Evans, y dirprwy weinidog amaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mai Andy Richardson, aelod o Dasglu Llaeth Cymru, fydd yn arwain adolygiad annibynnol o’r sector llaeth yng Nghymru.
Gwnaed y cyhoeddiad gan Rebecca Evans, y dirprwy weinidog dros amaeth a bwyd, yng Nghynhadledd Flynyddol yr NFU heddiw.
Roedd y dirprwy weinidog wedi dweud y mis diwethaf bod cynnal adolygiad yn “allweddol” i’r sector yn dilyn y gostyngiad diweddar ym mhris llaeth. Mae’n gobeithio y bydd y gwaith yn canfod ffyrdd o wella hyder yn y sector.
“Mae gan Andy Richardson brofiad helaeth yn y diwydiant llaeth gan ymgymryd â nifer o fentrau tebyg ar draws y DU, felly rydw i’n falch ei fod wedi cytuno i gynnal yr adolygiad hwn,” meddai Rebecca Evans.
“Rydw i’n disgwyl i’r adolygiad roi cyfarwyddyd strategol clir i’r diwydiant llaeth ar draws yr holl gadwyn gyflenwi, gan gynnig argymhellion ar gyfer y llywodraeth a’r diwydiant a fydd yn sicrhau twf economaidd a swyddi ychwanegol yn y diwydiant yng Nghymru.”
Mae disgwyl y bydd yr adroddiad wedi ei gwblhau erbyn diwedd mis Chwefror 2015.