Yr heddlu tu allan i westy'r Sirhowy Arms yn y Coed Duon
Mae dyn a dynes wedi marw mewn gwesty yn Y Coed Duon wedi i’r heddlu gael eu galw i ddigwyddiad yn oriau mân y bore ma.
Cafodd yr heddlu eu galw i westy’r Sirhowy Arms yn Argoed am 1.23yb yn dilyn adroddiadau bod dyn yn ymosod ar ddynes.
Cafodd taser ei ddefnyddio i dawelu’r dyn cyn iddo gael ei arestio.
Cafwyd hyd i gorff y ddynes, 22, oedd wedi cael anafiadau difrifol, a chadarnhawyd ei bod wedi marw. Mae ei marwolaeth yn cael ei drin fel achos o lofruddiaeth ac mae ymchwiliad ar y gweill.
Ar ol i’r dyn, 34 oed, gael ei arestio fe aeth yn anymwybodol ac er i swyddogion yr heddlu a pharafeddygon roi triniaeth iddo, bu farw’n ddiweddarach.
Mae’r digwyddiad wedi cael ei gyfeirio at Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu, a dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad a’r digwyddiad.
Mae Cyngor Sir Caerffili wedi dweud bod y gwesty’n cael ei ddefnyddio fel llety dros dro ar gyfer pobl ddigartref.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: “Mae’r awdurdod yn cydweithredu’n llawn â Heddlu Gwent fel rhan o’u hymchwiliadau sy’n parhau.
“Allwn ni ddim cynnig sylw pellach ar hyn o bryd.”
‘Ergyd i’r gymuned’
Dywedodd y cynghorydd lleol, Leon Gardiner fod y digwyddiad wedi creu sioc yn y gymuned.
“Dw i yn y tywyllwch gymaint ag unrhyw un arall. Mae’r adeilad yn fawreddog ac yn hyfryd, ac mae’r bobol sy’n ei reoli’n hyfryd ac yn ei redeg yn dda iawn.
“Mae hyn wedi bod yn ergyd fawr i ni, ac rydyn ni wedi ypsetio’n fawr. Beth allwn ni ei wneud ond cynnig cefnogaeth i bawb sydd wedi cael eu heffeithio?
“Dw i mor flin bod hyn wedi digwydd. Alla i ddim dychmygu beth fydd pobol yr ardal yn dweud wrth eu plant pan fyddan nhw’n dod adref o’r ysgol ac yn gofyn beth sydd wedi digwydd.”