Bydd deiseb yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru heddiw yn galw am wella mynediad cleifion canser i ystod ehangach o driniaethau, gan gynnwys y cyffur Avastin.
Dywed y Ceidwadwyr Cymreig na ddylai cleifion yng Nghymru orfod dibynnu ar loteri cod post cyn derbyn triniaeth, ac nad yw triniaethau canser yng Nghymru gystal â’r rhai sydd ar gael yn Lloegr.
Bydd dau glaf canser yn cyflwyno tystiolaeth i Lywodraeth Cymru wrth gyflwyno’r ddeiseb heddiw.
Er bod Avastin – cyffur sy’n gallu ymestyn hyd oes cleifion canser – ar gael yn Lloegr, dydy’r cyffur ddim eto ar gael i gleifion yng Nghymru.
Cafodd Rosemary Greenslade o Glydach wybod ei bod hi’n dioddef o ganser yr ofari yn 2012.
Gwrthododd meddygon roi Avastin iddi ond gwnaeth hi gais llwyddiannus i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i gael nawdd i gael defnyddio’r cyffur.
‘Brwydr’
Dywedodd: “Mae fy mrwydr hir am nawdd wedi bod yn llwyddiannus ac am hynny, rwy’n hynod falch.
“Roedd y gefnogaeth ges i’n rhyfeddol ac fe fydda i’n ddiolchgar am byth.”
Ychwanegodd y bydd hi’n parhau â’i brwydr i helpu cleifion canser eraill, sy’n cynnwys deiseb i sefydlu cronfa triniaethau i sicrhau cyffuriau canser.
Bydd y ddeiseb – sy’n cynnwys 100,000 o lofnodion – yn cael ei chyflwyno ar risiau’r Senedd gan Ann Wilkinson o Frynbuga i Aelod Cynulliad Trefynwy, Nick Ramsay.
Mae Ann hithau wedi derbyn Avastin yn dilyn brwydr hir gyda chanser.
Mae ymgyrchoedd blaenorol i sefydlu cronfa wedi cael eu hanwybyddu, er gwaethaf ymchwil gan Sefydliadau Canserau Prin fod cleifion yng Nghymru bedair gwaith yn llai tebygol o dderbyn triniaeth newydd na chleifion yn Lloegr.
Bydd dadl ynghylch sefydlu cronfa yn cael ei chynnal yn y Senedd heddiw.
‘Anghyfiawnder’
Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar wedi dweud bod y gwahaniaethau rhwng triniaethau i gleifion Cymru a Lloegr yn “anghyfiawnder syfrdanol” a dywedodd fod “pob stori o fynediad cyfyngedig yn ddiofyn, yn ddiangen ac yn annheg”.
Ychwanegodd: “Nid yn unig y mae cael gafael ar gyffuriau a allai gwella ac ymestyn bywydau yn eithriadol o anodd yng Nghymru, ond mae gwahaniaeth mawr ym mha mor hawdd yw hi i gleifion yn Lloegr.”
Ychwanegodd ei bod yn “bryd i’r anghyfartaledd ddod i ben”.