Mae Marks & Spencer wedi cyhoeddi cynnydd annisgwyl yn ei elw yn y chwe mis hyd at fis Medi.

Dywedodd pennaeth M&S Marc Bolland bod ’na arwyddion bod pethau’n gwella yn dilyn “ymateb calonogol” gan gwsmeriaid i’w dillad ar gyfer merched, er bod gwerthiant dillad 2.2% yn is yn y chwe mis hyd at 27 Medi.

Mae busnes bwyd y cwmni yn parhau i berfformio’n dda gyda chynnydd o 1% mewn gwerthiant, er gwaetha’r gystadleuaeth heriol sydd wedi effeithio archfarchnadoedd eraill.

Ar draws y grŵp, roedd gwerthiant wedi cynyddu 1% i £4.9 biliwn gydag elw’n cynyddu 2.3% i £268 miliwn.