Yr Arlywydd Barack Obama
Y Blaid Weriniaethol sydd bellach yn rheoli Senedd yr Unol Daleithiau ar ôl cipio seddi gan y Democratiaid yn yr etholiadau canol tymor.
Wrth i’r Gweriniaethwyr gryfhau eu mwyafrif yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr, mae pleidleiswyr wedi dangos eu hanfodlonrwydd gyda’r Arlywydd Barack Obama.
Fe fydd Obama yn gorfod treulio ei ddwy flynedd olaf yn y swydd mewn llywodraeth sy’n cael ei rheoli gan y Gweriniaethwyr, sydd wedi bod yn benderfynol o atal ei bolisïau.
Dywedodd Mitch McConnell, sy’n debygol o arwain mwyafrif y Gweriniaethwyr yn y Senedd, bod y canlyniadau’n dangos bod pleidleiswyr yn “awchu am arweinyddiaeth newydd. Maen nhw eisiau rheswm i fod yn obeithiol.”
Dywedodd y Democrat Harry Reid: “Mae’r neges gan bleidleiswyr yn glir: maen nhw am i ni weithio gyda’n gilydd.”