Mae dyfodol purfa olew Murco yn Aberdaugleddau yn y fantol wedi i gwmni o’r Swistir dynnu nôl o gytundeb i brynu’r safle.

Fe fu ansicrwydd ynghylch y burfa ers pedair blynedd a mwy a bellach, gallai hyd at 400 o swyddi fod yn y fantol yn dilyn penderfyniad cwmni Klesch neithiwr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi ei siom yn sgil y cyhoeddiad.

Mae’n debyg mai storio a dosbarthu tanwydd yn unig fydd y safle yn y dyfodol.

Dywedodd Aelod Seneddol Ceidwadol Preseli Sir Benfro ac Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb fod y newyddion “yn hynod o siomedig”.

“Dw i’n teimlo’n hynod o flin dros y gweithlu a’u teuluoedd sydd wedi bod yn wynebu misoedd o ansicrwydd cyn i’r cytundeb chwalu unwaith eto.

“Pan ddaeth hi’n amlwg na fydden nhw’n ufuddhau i’r dyddiad cau ddydd Gwener diwethaf, fe wnaethon ni weithio drwy’r nos i berswadio Murphy i barhau i siarad â’r prynwr.

“Fe ddangoson nhw dipyn o ewyllys da unwaith eto drwy ymestyn eu dyddiadau cau ond yn amlwg bellach, maen nhw wedi penderfynu nad oes siawns o gwblhau’r cytundeb o fewn amser sy’n dderbyniol.”

Ychwanegodd nad oedd yn teimlo y gallai llywodraethau Cymru na Phrydain fod wedi gwneud rhagor i sicrhau’r cytundeb.
Ergyd drom

Mewn datganiad, mynegodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart ei siom.

Dywedodd fod y newyddion yn “ergyd drom i staff purfa Murco a chwmnïau o fewn cadwyn gyflenwi’r burfa”.

“Bu Murco yn rhan annatod o wneuthuriad isadeiledd olew a nwy Cymru a’r economi Gymreig ers nifer o flynyddoedd.”

Ychwanegodd na fyddai cefnogaeth Llywodraeth Cymru i weithwyr Murco yn dod i ben.

Ychwanegodd y Farwnes Randerson y byddai’r gwaith o gefnogi staff Murco yn parhau.

Dywedodd y cynghorydd lleol Huw George wrth raglen y Post Cyntaf: “Wnes i ddweud yn yr haf, nes bod pethau wedi cael eu harwyddo, doedd dim sicrwydd. Mae heddiw yn ddiwrnod trist iawn i’r 400 o staff a’r sir yn gyfan gwbl.”

‘Cydymdeimlo’

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Simon Thomas wedi dweud ei fod yn cydymdeimlo â gweithwyr Murco a’u teuluoedd yn dilyn y cyhoeddiad.

Mewn datganiad, dywedodd: “Dyma newyddion hynod siomedig i weithwyr purfa Murco a’u teuluoedd ac rwy’n anfon fy nghydymdeimlad dwysaf iddyn nhw.

“Mae’r dyfodol yn edrych yn ansicr iddyn nhw ac rwy’n disgwyl i Lywodraeth Cymru gynnig pob cefnogaeth iddyn nhw wrth iddyn nhw symud ymlaen.”

Ychwanegodd y byddai’r newyddion yn cael effaith sylweddol ar economi Cymru.

“Mae Aberdaugleddau’n ganolfan economaidd bwysig ac mae angen i ni weithio i’w wneud yn lleoliad deniadol ar gyfer busnesau newydd gael buddsoddi gyda thechnolegau newydd.”