Ann Clwyd
Mae arweinwyr y Blaid Lafur wedi penderfynu y bydd yn rhaid i Ann Clwyd gael ei hail-ddewis i sefyll fel ymgeisydd yng Nghwm Cynon.
Er ei bod wedi cynrychioli’r ardal ers 1984, fe gyhoeddwyd heno y bydd yn rhaid iddi fynd drwy’r broses eto er mwyn sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol yn 2015.
Fe benderfynodd Ann Clwyd, sy’n 77 oed, ym mis Chwefror eleni na fyddai’n sefyll fel AS yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Ond fe wnaeth dro pedol ym mis Medi a dweud ei bod wedi ail-ystyried yn dilyn anogaeth gan bobol leol.
Ond fe ddywedodd y Blaid Lafur fod y broses o ddewis ymgeisydd arall wedi dechrau ar ôl iddi ddweud na fyddai’n sefyll eto.
Ddoe, daeth cadarnhad fod Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol (NEC) y Blaid Lafur wedi dweud y byddai’n rhaid i Ann Clwyd gael ei hail-ddewis er mwyn sefyll fel ymgeisydd.
Ffrae
Roedd ffrae wedi corddi yn dilyn gorchymyn bod yn rhaid i’r blaid yn lleol ddefnyddio rhestr merched yn unig i ddewis ei holynydd. Roedd y blaid leol yn chwyrn yn erbyn y syniad ac yn bygwth peidio bod yn rhan o’r broses i ddewis olynydd.