Fe fydd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn ymchwilio am yr eil dro i farwolaeth bachgen ysgol 24 o flynyddoedd yn ôl.

Bu farw Robbie Powell, oedd yn 10 oed, o Ystradgynlais ym Mhowys yn 1990 o glefyd Addison’s.

Ar y pryd, ni chafodd profion eu gwneud i adnabod yr afiechyd sy’n brin ond sydd â modd ei drin.

Cafodd Robbie Powell ei weld gan bum meddyg teulu ar saith achlysur yn yr wythnosau yn arwain at ei farwolaeth.

Mae rhieni Robbie Powell wedi mynnu fod rhywun wedi ceisio cuddio’r wybodaeth ynghylch ei farwolaeth.

Cafodd cwest i’w farwolaeth ei gynnal ym mis Chwefror 2004 oedd yn dangos fod Robbie Powell wedi marw o achosion naturiol o ganlyniad i esgeulustod, ac fe ddywedodd y CPS ar y pryd na ddylid dwyn cyhuddiadau troseddol.

Ond nawr mewn llythyr at deulu Robbie Powell mae’r CPS yn dweud eu bod wedi ailfeddwl ac am ail-ystyried y dystiolaeth i weld a oes sail dros ddwyn cyhuddiadau troseddol.

Yn 2012, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fod angen i wersi gael eu dysgu o farwolaeth y bachgen.