Mae cwmni peiriannau Rolls-Royce yn bwriadu cael gwared a 2,500 o swyddi dros y 18 mis nesaf fel rhan o gynlluniau ail-strwythuro’r cwmni.
Mae’n debyg y bydd y diswyddiadau’n effeithio adran aerofod y cwmni yn bennaf.
Mae gan Rolls-Royce safleoedd ym Mryste a Derby, ac fe rybuddiodd fis diwethaf bod y sefyllfa economaidd heriol yn golygu y byddai’n gorfod canolbwyntio ar gostau.
Dywedodd y prif weithredwr John Rishton: “Nid dyma fydd yr olaf o’r mesurau ond fe fyddan nhw’n helpu i wneud Rolls-Royce yn gwmni cryfach a mwy proffidiol.”
Mae Rolls-Royce yn cyflogi mwy na 55,000 o bobl mewn 45 o wledydd. Mae mwy na 17,000 o’r rheiny yn beirianwyr.
Mae’r cwmni’n cyflogi 12,000 o bobl mewn pedwar lleoliad yn y Midlands, yn ogystal â 1,500 mewn pum lleoliad yn y gogledd orllewin, a 2,400 mewn chwe safle ar draws yr Alban.