Anne Jackson
Fe fydd dyn o Sheffield sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio bardd 78 oed o Sir Fynwy yn mynd gerbron Llys y Goron Casnewydd yfory.

Daethpwyd o hyd i’r bardd Anne Jackson, a oedd yn cyhoeddi ei gwaith o dan yr enw Anne Cluysenaar, yn farw yn ei chartref ym Mrynbuga nos Sadwrn.

Roedd hi’n wreiddiol o Wlad Belg ac wedi darlithio mewn llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd ar ôl byw yng Nghymru am yr 20 mlynedd diwethaf.

Fe wnaeth Timothy Jackson o Sheffield, sy’n llysfab i Anne Jackson, ymddangos o flaen Llys Ynadon Casnewydd y bore ma ar gyhuddiad o’i llofruddio, ac fe gafodd yr achos ei gyfeirio i Lys y Goron Casnewydd.

Bydd yn ymddangos yno am 9:30 bore fory.