Siop Primark yn Abertawe
Mae elw blynyddol siopau dillad Primark wedi cynyddu 29% i £662 miliwn a’r gwerthiant i bron £5 biliwn, wedi i’r cwmni gael blwyddyn “wych” arall.

Daw’r ffigyrau wrth i arbenigwyr ragweld y bydd un o gystadleuwyr Primark, siop Marks & Spencer, yn cyhoeddi llai o elw yfory.

Dywedodd Associated British Foods, sy’n berchen Primark, fod gwerthiant wedi codi 16% i £4.95 biliwn wedi i’r cwmni agor siopau newydd ledled Ewrop.

Mae 278 o siopau Primark bellach ar agor ar hyd a lled Ewrop – gan gynnwys 164 yn y DU – ac mae bwriad i agor siopau yn yr Unol Daleithiau.

“Mae llwyddiant masnachu Primark a’r ehangu sylweddol wedi golygu ein bod wedi gweld blwyddyn wych arall,” meddai Prif Weithredwr Associated British Foods, George Weston.