Ystlum
Mae gwarchodfa natur yng ngogledd Cymru wedi derbyn cyllid o fwy na £40,000 i adeiladu clwyd ar gyfer ystlumod.

Bydd yr hen ffatri Gwaith Powdwr ym Mhenrhyndeudraeth yn defnyddio’r grant gan Ymddiriedolaeth Sita i adnewyddu un o’i adeiladau ar gyfer yr ystlumod trwyn pedol.

Ar un adeg, roedd Gwaith Powdwr yn un o’r ffatrïoedd creu ffrwydradau mwyaf yn Ewrop ond ers tua 1998 mae rhai o’i adeiladau yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, oherwydd presenoldeb yr ystlumod.

Dywedodd Rob Booth, swyddog gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru: “Mae arolwg wedi canfod bod gan yr adeilad y potensial i fod yn gartref i’r ystlumod trwyn pedol, ond fe fydd rhywogaethau eraill yn ei ddefnyddio hefyd.

“Mae pobol leol wedi treulio wythnosau yn clirio’r hen sied er mwyn paratoi’r safle.”

Mae’r prosiect hefyd yn cael ei gefnogi gan Barc Cenedlaethol Eryri a Chyfoeth Naturiol Cymru ac fe fydd yn costio £50,000 i’w gwblhau.