Theresa May
Mae Theresa May wedi ymddiheuro i ddioddefwyr yn dilyn ymddiswyddiad ail gadeirydd yr ymchwiliad i honiadau hanesyddol o gam-drin plant yn rhywiol wythnos ddiwethaf.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref y bydd cyfarfod cyntaf y panel yn cael ei gynnal ddydd Mercher nesaf ond dywedodd wrth ASau ei bod yn “siomedig iawn” nad oes cadeirydd yn arwain yr ymchwiliad a hynny bedwar mis ers creu’r swydd.

Mewn datganiad yn y Senedd yn dilyn ymddiswyddiad Fiona Woolf ddydd Gwener, dywedodd Theresa May y bydd adroddiad gan bennaeth elusen yr NSPCC, Peter Wanless, i’r modd yr oedd y Swyddfa Gartref wedi delio gydag ymchwiliad i honiadau o gamdrin plant rhwng 1979 a 1999, yn cael ei gyhoeddi wythnos nesaf.

Mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi cyfaddef na fydd yn broses hawdd i ddod o hyd i gadeirydd sydd a’r arbenigedd i wneud y swydd ond sydd heb gysylltiadau gyda sefydliad neu unigolyn a allai fod yn rhan o’r ymchwiliad.

Ond ychwanegodd ei bod yn hyderus y gallai ddod o hyd i rywun a fyddai’n gymwys ar gyfer y swydd ac a fyddai’n ennyn hyder y rhai sydd wedi gwneud yr honiadau.

Roedd Woolf, Arglwydd Faer Llundain, wedi cyfaddef ei bod wedi colli hyder dioddefwyr ar ôl i’w chysylltiadau gyda’r cyn ysgrifennydd cartref yr Arglwydd Brittan gael eu datgelu.

Mae disgwyl iddo ddod o dan y chwyddwydr yn yr ymchwiliad yn dilyn honiadau ei fod wedi methu a gweithredu ynglŷn â honiadau am bedoffiliaid yn San Steffan yn yr 80au.

Daeth ymddiswyddiad Fiona Woolf ar ôl i’r Farwnes Butler-Sloss benderfynu camu o’r swydd ym mis Gorffennaf ar ôl i gwestiynau gael eu codi ynglŷn â rôl ei brawd, y diweddar Arglwydd Havers, a oedd yn dwrne cyffredinol yn yr 80au.