Mae dyn canol oed yn cael ei holi gan yr heddlu am amheuaeth o lofruddio gwraig 78 oed.
Hynny ar ôl i blismyn gael eu galw i ddigwyddiad mewn tŷ yn ardal Brynbuga ychydig cyn saith o’r gloch neithiwr.
Fe ddaethon nhw o hyd i gorff y wraig yno a mynd â’r dyn i’r ddalfa i gael ei holi.
Post mortem
Dyw union achos marwolaeth y ddynes ddim yn hysbys eto ac fe fydd ymchwiliad post mortem yn cael ei gynnal.
Mae Heddlu Gwent yn gofyn am dystion a allai helpu gyda gwybodaeth am y digwyddiad.
Fe ddylai unrhyw pobl gysylltu â nhw trwy’r rhif 101.