Jim Murphy (PA)
Mae un o’r ymgeiswyr am arweinyddiaeth Plaid Lafur yr Alban wedi ymdiswyddo o gabinet yr wrthblaid yn San Steffan.
Yn ôl Jim Murphy, byddai’n ormod ceisio dod yn arweinydd a diwygio’r blaid yn yr Alban ar yr un pryd â bod yn llefarydd Llafur ar ddatblygu rhyngwladol.
Ond fe fydd yr ymddiswyddiad hefyd yn cael ei weld yn ymgais i roi pellter rhyngddo â’r blaid yn ganolog yn Llundain, sy’n amhoblogaidd ymhlith cefnogwyr Llafur yn yr Alban ar hyn o bryd.
‘Eisiau newid yr Alban’
“Dw i eisiau ymrwymo’n llawn amser i newid yr Alban a newid Plaid Lafur yr Alban,” meddai Jim Murphy wrth Radio Five Live. “Mae’n anodd gwneud hynny a gwasanaethu yn y cabinet cysgod.”
Ond mae wedi cael dyrnod i’w ymgyrch hefyd wrth i ddau o’r undebau mwya’ benderfynu cefnogi un o’i ddau wrthwynebydd, yr Aelod o Senedd yr Alban, Neil Findlay.
Ddoe fe gyoheddodd Unison ac Aslef eu bod o’i blaid ef ac fe gafodd Jim Murphy ei feirniadu gan undeb mawr arall, Unite, am “ddiffyg sylwedd” yn ei bolisïau.