Mae’n rhaid i wleidyddion wrando ar rybudd diweddaraf gwyddonwyr ynghylch newid hinsawdd neu gall dyfodol dynoliaeth fod yn y fantol.
Dyma yw barn yr amgylcheddwr blaenllaw, Hywel Davies, golygydd gwefan Y Papur Gwyrdd wrth i adroddiad diweddara’r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC) alw am dorri allyriadau CO2 yn gyfan gwbl erbyn 2100.
“Rwy’n croesawu’r adroddiad yn fawr iawn,” meddai Hywel Davies, “dwi jest ddim yn credu ein bod ni’n gallu osgoi’r hyn mae’n ei ddweud.”
Sefyllfa’n gwaethygu
“Mae’n barhad o’r rhybudd y mae gwyddonwyr wedi bod yn ei roi i ni ers cwpl o ddegawdau,” ychwanegodd, “ ac mae’r sefyllfa o ran cynhesu byd eang a newid hinsawdd yn mynd yn waeth ac y waeth.
“Yr unig beth rhesymegol i’w wneud ydi torri lawr ar allyriadau 100% erbyn 2100.”
Mae’r rhagolygon mor ddifrifol erbyn hyn fel bod angen i bawb addasu eu bywydau er mwyn gostwng eu hôl-troed carbon personol, meddai, a rhoi pwysau gwirioneddol ar wleidyddion i weithredu.
Targed realistig?
Ymateb pobol a’u parodrwydd i godi eu llais a fyddai’n gwneud y targed yn un realistig neu beidio, meddai Hywel Davies, a sefydlodd y Papur Gwyrdd yn 2007.
“Er enghraifft os oes ‘na esiampl yng Nghymru o gwmni eisiau agor safle glo brig enfawr arall a chynyddu allyriadau rhaid i ni sicrhau nad yw hynny ddim yn digwydd.
“Ac os oes engraifft o brosiect i gynhyrchu trydan drwy ddulliau adnewyddadwy, fel yr un ym Mae Abertawe, mae angen i ni godi’n llais i’w gefnogi, a pheidio â gwrando ar bwysau corfforaethau glo, olew a nwy.”
Eithafion tywydd
Roedd Hywel Davies yn cefnogi safbwynt awduron yr adroddiad sy’n dweud bod newid hinsawdd eisoes yn cael effaith ar fywydau pobol o amgylch y byd.
“Mae’r cynhesu yn y pegynau yn achosi toddi enfawr i’r ia yn yr ardaloedd hynny,” meddai.
“Mae sychderau’n digwydd ledled y byd ac mae ffyrnigrwydd stormydd yn union fel y patrymau roedd gwyddonwyr wedi ofni fyddai’n digwydd.”