Llun o wefan y Sefydliad Cyflog Byw
Mae disgwyl y bydd cannoedd o bobol yng Nghymru heddiw’n cael clywed eu bod yn cael codiad cyflog yfory oherwydd cynnydd yn y cyflog byw.

Mae 33 o gyrff, cwmnïau a mudiadau yng Nghymru bellach wedi cofrestru gydag ymgyrch i sicrhau cyflog byw i bawb, yn hytrach nag isafswm cyflog.

Mae’r mudiad sy’n cynnal y gofrestr bellach yn dweud eu bod wedi croesi 1,000 o aelodau – mwy na dwbl y nifer oedd yn gwneud yr un adeg y llynedd.

Y Cynulliad yn un o’r cyflogwyr

Mae nifer o gyrff a sefydliadau Cymreig yn cynnig y cyflog byw gan gynnwys y Cynulliad, Cyngor Caerffili a Phrifysgol Caerdydd.

Plaid Cymru yw’r unig blaid Gymreig sydd wedi cofrestru ar wahân, yn ôl gwefan y Sefydliad Cyflog Byw.

Dim ond £6.50 y mae pobol sy’n derbyn yr isafswm cyflog yn ei gael – o gymharu â chyflog byw o £7.65 yr awr, ac £8.80 yn Llundain.

‘Llawer i’w wneud’

Mae’r Sefydliad Cyflog Byw yn rhan o gorff cymunedol ehangach o’r enw Citizens UK.

“Mae gyda ni lawer o achos dathlu ond mae llawer o waith yn parhau i fod i’w wneud,” meddai Neil Jameson, Cyfarwyddwr Gweithredol corff cymunedol o’r enw Citizens UK – mae’r Sefydliad yn rhan o hwnnw.

“Rydym yn gobeithio gallu dylanwadu ar yr etholiad cyffredinol sydd ar y ffordd a sicrhau 5,000 o gyflogwyr cyflog byw erbyn 2020.”

Llafur yn addo cefnogi

Mae’r Blaid Lafur yn dweud y byddan nhw’n rhoi ad-daliad treth i gwmnïau sy’n cynnig y cyflog, petaen nhw’n ennill yr etholiad ym mis Mai 2015.

Mae’r cyflog byw yn cael ei osod gan Awdurdod Llundain Fwyaf, gyda Phrifysgol Loughborough yn penderfynu ar y raddfa ar gyfer gweddill Prydain.

Ei fwriad yw galluogi gweithwyr i allu fforddio talu am safon byw sylfaenol yn ogystal â galluogi iddyn nhw ennill digon i gael amser i ffwrdd i’w dreulio gyda’u teuluoedd.