Tara Mackie
Mae achos cerddwraig ifanc a gafodd ei lladd gan gar yn ne Cymru yn dangos yr angen am gosbau llymach yn erbyn gyrwyr sy’n peryglu bywydau eraill.
Dyna farn un o arweinwyr mudiad gwyrdd ym Mro Morgannwg wrth gefnogi dadl arbennig gan aelod seneddol Ceidwadol yn Nhŷ’r Cyffredin.
Mae wedi galw ar AS Ceidwadol Bro Morgannwg, Alun Cairns, i gymryd rhan yn y ddadl a sôn am achos Tara Mackie, 25, a gafodd ei lladd wrth gerdded rhwng y Barri a Dinas Powis, union dair blynedd yn ôl.
‘Brwydro’
Mae Keith Stockdale, Cydlynydd Cyfeillion y Daear yn Y Barri a’r Fro, hefyd wedi galw am lwybr beiciau a cherdded rhwng Barry a Chaerdydd.
“Mae’r rhai sy’n ddigon dewr i feicio i’r gwaith ar hyd yr hewlydd yn brwydro yn erbyn ceir a lorïau,” meddai.
“Fe ddylai cynghorau Caerdydd a’r Fro weithio ar frys gyda’r Llywodraeth i sicrhau llwybrau diogel ar gyfer seiclo a cherdded.”
Y ddadl
Fe fydd y ddadl yn Neuadd Westminster yn San Steffan yn cael ei chynnal gan Alok Sharma, AS Gorllewin Reading, ar ôl i ddau feiciwr gael eu lladd yno ac wrth i’w teuluoedd ymgyrchu am gosbau llymach i yrwyr peryglus.