Tren Arriva
Mae cwmni trenau wedi cyhoeddi llythyr i deithwyr yng Nghymru’n ymddiheuro am brinder lle ar eu trenau yn ystod y mis diwetha’.

Ond, wrth ymateb i gwynion gan y teithwyr eu hunain, mae Arriva Trains Wales yn rhoi’r bai ar gwmnïau eraill, a dail … a choeden.

Fe ddaeth y llythyr gan ddau o gyfarwyddwyr y cwmni ar ôl cwynion ar y wefan gymdeithasol Twitter ac yn uniongyrchol i staff ar y trênau.

Y rhesymau

Yn ôl y llythyr agred i deithwyr gan Arriva, roedd nifer o resymau am y trafferthion:

  • Trênau nwyddau’n torri ar y lein rhwng Caergybi a Manceinion a Llundain a hynny’n golygu gorfodi Arriva i ddod ag ail drên i ailddechrau’r gwasanaethau a hynny’n golygu mynd â cherbydau o drênau lleol eraill.
  • ganlyniad, doedd cerbydau ddim yn y llefydd iawn ar gyfer teithiau’r bore wedyn.
  • Roedd yr angen am drwsio neu gynnal a chadw brys wedi golygu nad oedd trênau ar gael, gan gynnwys un a oedd wedi taro coeden.
  • Roedd dail ar y traciau’n golygu bod olwynion yn cael difrod wrth frecio a hynny wedi effeithio ar drênau yn ardal Caerdydd a’r Cymoedd.

Mae’r cwmni’n ymddiheuro am fod llai nag arfer o gerbydau wedi bod ar rai trênau ac yn addo gwneud eu gorau i rwystro hynny rhag digwydd eto.