David Hanson
Mae Aelod Seneddol Delyn wedi dweud bod angen i Ffrainc wneud mwy i atal mewnfudwyr anghyfreithlon rhag cyrraedd Calais.
Fe aeth David Hanson i Calais i asesu’r sefyllfa yn rhinwedd ei swydd yn llefarydd y Blaid Lafur ar fewnfudo.
“Mi fues i’n Calais yr wythnos ddiwethaf er mwyn gweld drosof fy hun beth yw’r heriau ac roedd yr hyn a welais yn weddol ysgytwol,” meddai wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC.
‘Diffyg gweithredu’
“Mae yna lot o bobl sydd yn dlawd, sydd yn ddigartref, wedi wynebu teithiau anodd er mwyn cyrraedd Calais,” ychwanegodd Mr Hanson.
“Ond mae yna ddiffyg gweithredu dwi’n meddwl o ran amddiffyn y ffin ac, yn fy marn i, mae angen ymateb rhyngwladol Ewropeaidd er mwyn atal pobl rhag cyrraedd Ffrainc yn y lle cynta’.”
Mae Calais wedi dod yn ganolbwynt cynyddol yn ddiweddar o ran trafodaethau am fewnfudo, gyda maer y ddinas Natacha Bouchart yn dweud bod y Deyrnas Unedig yn cael ei gweld yn wladwriaeth sy’n hael gyda budd-daliadau.
Ffens Nato
Ers mis Ionawr mae mwy na 7,000 o fewnfudwyr wedi cael eu harestio yn y ddinas ac mae miloedd yn rhagor wedi cyrraedd yno wrth iddyn nhw geisio cyrraedd Prydain.
Mae’r ffens a gafodd ei defnyddio yng Nghaerdydd ar gyfer cynhadledd NATO bellach yn Calais er mwyn ceisio atal y mewnfudwyr rhag llwyddo i gyrraedd gwledydd Prydain.
Ond yn ôl Ms Bauchart, “mae’r ffens yn gwneud i bawb chwerthin”.