Ghoncheh Ghavami (Llun - Amnest Rhyngwladol)
Mae mwy na 700,000 o bobol wedi arwyddo deiseb yn galw am ryddhau gwraig ifanc sydd wedi ei charcharu yn Iran am brotestio tros hawliau merched.

Roedd Ghohcheh Ghavami, 25 oed, wedi cael ei chadw yn y ddalfa am fisoedd ar ôl mynd i brotest yn erbyn cyfraith sy’n gwahardd merched rhag gwylio gêmau pêl-foli dynion.

Mae newydd gael ei dedfrydu i flwyddyn yn y carchar ar ôl i lys ei chael yn euog bythefnos yn ôl o drosedd o bropaganda yn erbyn y wladwriaeth.

Y cefndir

Roedd y brotest wedi digwydd ym mis Mehefin, pan ymunodd y wraig sy’n ddinesydd o’r Deyrnas Unedig yn ogystal ag Iran, gyda chriw o ferched a oedd yn protestio y tu allan i gêm bêl-foli ryngwladol.

Fe gafodd ei harestio am rai oriau, yna’i rhyddhau a’i harestio a’i charcharu ychydig ddyddiau wedyn ar ôl mynd i gasglu ei ffôn symudol gan yr heddlu.

Ers hynny, mae cymdeithas iawnderau Amest Rhyngwladol wedi bod yn ymgyrchu ar ei rhan, gan ddweud ei bod wedi cael ei churo a’i llusgo pan gafodd ei harestio ac yna wedi cael ei chadw ar ei phen ei hun a’i hatal rhag gweld ei theulu am hyd at 50 niwrnod.

‘Cywilydd’ meddai Amnest

“Mae’n gywilydd bod gwraig ifanc yn cael ei charcharu am ddim ond lleisio’i barn yn heddychlon am wahaniaethu annheg yn erbyn menywod yn Iran,” meddai Kate Allen, cyfarwyddwraig Amnest yn y Deyrnas Unedig.

“Carcharor cydwybod yw Ghoncheh ac fe ddylai’r awdurdodau yn Iran ddileu’r ddedfryd a’i rhyddhau ar unwaith heb amod.”