Mae Heddlu West Mercia yn ymchwilio i farwolaeth dyn 20 mlwydd oed o Wrecsam a fu farw wedi iddo fod mewn digwyddiad mewn parc sglefrio ddydd Sadwrn.

Maen nhw’n ystyried bod y farwolaeth yn un amheus.

Roedd y gŵr ifanc wedi bod yn y digwyddiad yn y parc sy’n rhan o barc diwydiannol Rednal yng Nghroesoswallt.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Brenhinol Amwythig ond fe gyhoeddwyd yno ei fod wedi marw.

Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth allai helpu’r heddlu gyda’u hymchwiliad gysylltu â nhw drwy ffonio 101.