Nicola Sturgeon - y bobl fydd yn dweud pryd
Mae mwyafrif pobol yr Alban bellach o blaid annibyniaeth, yn ôl y pôl piniwn diweddara’.

Mae’n mynd yn groes i ganlyniad y refferendwm fis a hanner yn ôl trwy ddangos bod 49% o blaid a 45% yn erbyn.

Hynny’n dilyn amheuaeth am addewidion a wnaeth arweinyddion y pleidiau mawr yn union cyn y bleidlais ac ymddiswyddiad yr arweinydd Llafur, Johann Lamont, tros ddiffyg pwer y blaid yn yr Alban.

Ym mis Medi, roedd 55% yn erbyn a 45% o blaid.

Problemau Llafur

Roedd yr holi gan gwmni YouGov wedi ei wneud yn ystod tridiau ola’r wythnos ddiwetha’, wrth i Lafur chwilio am arweinydd newydd.

  • Mae’r arolwg hefyd yn awgrymu bod 43% o beidleiswyr Llafur bellach yn cefnogi annibyniaeth.
  • Dim ond 3% o bobol yr Alban sy’n credu bod gan blaid Lafur y wlad ryddid i wneud ei phenderfyniadau ei hun, yn hytrach na dilyn Llundain.

Refferendwm arall

Y cwestiwn arall allweddol yw’r un am gynnal refferendwm arall.

  • Mae 45% o’r mwy na 1,000 a atebodd arolwg YouGove eisiau gweld pleidlais eto o fewn deng mlynedd.

Mae plaid yr SNP wedi dweud mai pobol yr Alban fydd yn penderfynu hynny ond fe allai Etholiad Cyffredinol newid hynny hefyd, gyda’r holl arolygon bellach yn dangos y gallai’r SNP chwalu’r pleidiau eraill i gyd ym mis Mai.

Wrth ddod yn arweinydd yr SNP, yn dilyn ymddiswyddiad Alex Salmond, fe ddywedodd Nicola Sturgeon ei bod yn credu mai annibyniaeth oedd yr ateb ond mai’r bobol fyddai’n pryd i gael refferendwm arall.

Yn ôl rhai sylwebyddion, fe allai mwyafrif clir i’r blaid genedlaethol gael ei gymryd yn fandad i wthio am annibyniaeth eto.