Georgia Williams, y ferch a gafodd ei llofruddio
Fe fydd llofrudd a daflodd gorff merch i goedwig ger Rhuthun yn clywed heddiw a fydd yn gorfod treulio gweddill ei oes yn y carchar.
Fe fydd tri barnwr uchel lys yn penderfynu cynnal neu ddileu dedfryd o garchar am oes gyfan ar Jamie Reynolds, 23, o Wellington yn Swydd Amwythig.
Ef yw un o’r llofruddion ieuenga’ erioed i gael dedfryd a fyddai’n ei gadw yn y carchar tan iddo farw ond mae wedi apelio yn erbyn hynny.
Apêl
Heddiw, fe fydd y tri barnwr – gan gynnwys y Prif Ustus, yr Arlgwydd Thomas o Gwmgïedd, a’r Cymro, y Barnwr Wyn Williams – yn dyfarnu ar apêl gan gyfreithwyr Jamie Reynolds.
Roedden nhw wedi dadlau y dylai’r barnwr gwreiddiol fod wedi rhoi mwy o ystyriaeth i oed Jamie Reynolds a’r ffaith ei fod wedi pledio’n euog.
Nant-y-Garth
Roedd Georgia Williams, 17 oed, o Wellington, wedi ei llofruddio ym mis Mai y llynedd, ar ôl i Jamie Reynolds ei denu i’w fflat gyda’r esgus o dynnu lluniau modelu ohoni.
Fe ddaethpwyd o hyd i’w chorff bedwar niwrnod yn ddiweddarach mewn coed ger Bwlch Nant-y-Garth rhwng Rhuthun a Wrecsam.
Roedd wedi ei chrogi o goeden a thynnu lluniau ohoni.
Yn ddiweddarach, fe ddaeth hi’n amlwg bod Jamie Reynolds wedi ceisio gwneud peth tebyg i ferch arall flynyddoedd ynghynt ac fod heddlu wedi cael clywed am luniau oedd ganddo are i gyfrifiadur yn dangos crogi merched.