Y safle
Mae’n ymddangos y bydd hyd at 500 o swyddi’n cael eu creu yn sgil cytundeb newydd i brynu safle biomas Alwminiwm Môn.
Mae Lateral Eco Parks yn gobeithio prynu’r safle yng Nghaergybi erbyn y gwanwyn, gan anelu at gynhyrchu digon o drydan ar gyfer 300,000 o gartrefi erbyn 2017.
Cafodd Alwminiwm Môn ei gau yn 2009, gan olygu bod bron i 400 o weithwyr wedi colli eu swyddi a chafodd y safle ei roi ar werth.