Mae arweinwyr o’r byd nyrsio wedi cyhuddo arweinwyr iechyd o geisio datrysiadau tymor byr i brinder nyrsys trwy gyflogi mwy a mwy o dramor.

Dengys ffigurau newydd fod cynnydd sylweddol yn nifer y nyrsys o dramor sy’n gweithio yng ngwledydd Prydain erbyn hyn.

Roedd cynnydd o 45% yn nifer y nyrsys o dramor oedd wedi cofrestru’r llynedd, yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol – y tro cyntaf i nifer y nyrsys oedd wedi dod o dramor fod yn uwch na nifer y nyrsys oedd wedi gadael gwledydd Prydain.

Roedd 22% o’r nyrsys newydd oedd wedi cofrestru yn dod o dramor, er bod llai o swyddi ar gael i nyrsys o wledydd Prydain.

Mae’r Coleg Nyrsio a Bydwragedd (NMC) a’r Adran Iechyd wedi cwestiynu ystadegau’r Coleg Nyrsio Brenhinol, gan honni nad yw’r ffaith fod nyrs wedi cofrestru’n golygu ei bod mewn swydd.

Sefyllfa o ddibyniaeth

Dywed prif weithredwr ac ysgrifennydd cyffredinol y Coleg Nyrsio Brenhinol, Dr Peter Carter fod gwledydd Prydain bellach yn “ddibynnol” ar nyrsys o dramor.

“Mae nyrsys o dramor wedi cynnig gwasanaeth gwerthfawr i’r Gwasanaeth Iechyd erioed, ond mae toriadau i lefydd myfyrwyr, morale gwael a chynllunio tymor byr yn golygu bellach fod ysbytai’n cael eu gorfodi i ordalu asiantaethau wrth iddyn nhw geisio llenwi bylchau.

“Mae’r Gwasanaeth Iechyd yn un o’r gwasanaethau iechyd gorau yn y byd, gan hyfforddi nyrsys i safon byd-eang.

“Ni ddylid ei orfodi i fynd ar ôl gweithluoedd gwledydd eraill i barhau i gynnig gofal i gleifion.

“Synnwyr cyffredin sy’n dweud bod dibynnu ar ddatrysiadau tymor byr yn llawer mwy drud yn y tymor hir.”

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Iechyd: “Bellach, mae mwy na 5,600 yn fwy o nyrsys ar ein wardiau nag yn 2010, a 3,240 yn llai o nyrsys wedi’u cofrestru o dramor.

“Rydym hefyd wedi creu 1,000 o lefydd ychwanegol ar gyfer nyrsys sy’n hyfforddi eleni.

“Mae nyrsys o dramor wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r Gwasanaeth Iechyd erioed ac mae’r mwyafrif o nyrsys Prydeinig sy’n gweithio dramor yn dychwelyd i’r DU gyda mwy o brofiad i’w helpu nhw i wella gofal cleifion yn y DU.”