Y ddau ddyn - Daniel Wynne ar y chwith (Lluniau heddlu)
lu yn chwilio am lofrudd a dyn o Gymru sydd wedi dianc o garchar agored yn ne Swydd Gaerloyw.

Fe lwyddodd Daniel Wynne, sy’n 28 mlwydd oed ac o Gymru, i ddianc gyda Daniel Shankly, 30, a oedd yn treulio dedfryd oes am lofruddiaeth o Garchar Leyhill ddydd Sadwrn

Mae’r heddlu’n credu bod y ddau wedi dianc gyda’i gilydd ond mae posibilrwydd eu bod nhw wedi gwahanu ers hynny.

Mae gan Daniel Wynne, a oedd yn treulio dedfryd o ddwy flynedd am ymosodiad, gysylltiadau ag ardal Caerffili.

Dyma’r disgirifiadau

  • Daniel Wynne: dyn gwyn, 5 troedfedd 7 modfedd o daldra. Mae ganddo wallt wedi ei eillio, mae’n siarad gydag acen Gymreig ac mae ganddo datŵ ar ei fraich chwith gyda’r enw “Danny”.
  • Daniel Shankly, sydd â chysylltiadau â Weston-super-Mare yng Ngwlad yr Haf: dyn gwyn, tua 6 troedfedd 3 modfedd, main gyda gwallt brown byr thatŵ ar ei dop ei fraich dde gyda’r geiriau “RIP Nan”.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Avon a Gwlad yr Haf y dylai pobol gysyltu gyda nhw ar y rhif argyfwng. 999, gan rybuddio pobol rhag mynd yn agos at y ddau ddyn.