Llys Ynadon Casnewydd
Fe fydd dynes o Gasnewydd yn ymddangos yn y llys heddiw ar gyhuddiad o geisio llofruddio dau blentyn ym mis Mai eleni.
Cafodd heddlu a chriw ambiwlans eu galw i stad Salisbury Close yng Nghasnewydd ar 7 Mai, ble cafodd gwraig 27 oed, ei harestio ar ôl i fachgen saith oed a merch 16 mis oed gael eu hanafu gyda chyllell.
Cafodd y ddau blentyn a’r wraig, a oedd hefyd ag anafiadau o’r gyllell, eu cludo i’r ysbyty yn syth i gael triniaeth.
Fe ddywedodd yr heddlu ar y pryd nad oedden nhw’n chwilio am unrhyw un arall ynglŷn â’r drosedd, a ddigwyddodd yng nghartref mam-gu a thad-cu’r plant.
Bydd Sadie Jenkins yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Casnewydd heddiw.