Rhan o logo'r ymgynghoriad toriadau
Bellach does dim modd osgoi toriadau go iawn mewn gwasanaethau, yn ôl arweinydd cyngor sir yn y Gogledd.
Ac mae’n dweud eu bod yn rhoi’r dewisiadau “lleia’ drwg” ger bron y cyhoedd wrth ofyn am eu barn am werth £17 miliwn o doriadau yn ystod y ddwy flynedd nesa’.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi dechrau ymgygnhoriad ynglŷn â lleihau effaith y toriadau ar gymunedau lleol.
Yn ôl arweinydd y cyngor mae gwerth £20 miliwn o arbedion eisioes wedi eu gwneud “trwy ganolbwyntio ar aneffeithlonrwydd, biwrocratiaeth a rheolaeth.
Ond, meddai’r Cynghorydd Hugh Evans, “mae’r amser wedi dod rŵan i ni wneud toriadau.”
Rhai o’r dewisiadau
Bydd y cyngor yn trafod toriadau ym mis Rhagfyr a Chwefror ac ymysg y cynigion mae stopio grantiau gwisg ysgol i deuluoedd incwm isel.
Awgrym arall yw rhoi pen ar roi cymorth ariannol i dripiau ysgol -ni arbed £38,000.
Fe fyddai cynigion eraill yn torri grantiau i Sinema a Chanolfan Gelfyddydau Scala ym Mhrestatyn a Chanolfan Grefftau Rhuthun a chau chwarter toiledau cyhoeddus y sir.
‘Y lleia’ drwg’
“Dyma’r dewisiadau ‘lleia’ drwg’ y mae’n rhaid i’r Cyngor eu hystyried wrth iddo osod ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf,” meddai Hugh Evans.
Mae crynodeb o’r cynigion i’w gweld yma, ynghyd â ffurflen fer ar-lein i drigolion y sir ei chwblhau.
Bydd yr ymgynghoriad yn parhau tan 27 Tachwedd.