Traeth Niwgwl (Llun: Visit Pembrokeshire)
Mae syrffwyr yn cael eu rhybuddio i fod yn fwy gofalus nag arfer ar ôl i dri o bobol gael eu lladd yng Nghernyw.
Fel yno, dim ond yn ystod tymor yr haf y bydd timau achub bywyd yn gweithio ar rai o draethau syrffio mwya’ poblogaidd Cymru.
Yn Niwgwl yn Sir Benfro, er enghraifft, mae achubwyr ar gael o fis Mehefin tan ddiwedd mis Medi, ond ddim ar ôl hynny.
Ailystyried
Mae elusen y badau achub, yr RNLI, wedi dweud y byddan nhw’n ailystyried y polisi ar draeth Mawgan Porth ger Newquay.
Fe fu tri o syrffwyr farw yno ddoe ar ôl cael eu tynnu o’r môr – roedd y ddau ddyn a’r un ddynes ymhlith criw o saith a aeth i drafferthion yno. Plant oedd y gweddill.
Dyw enwau’r meirw ddim wedi cael eu cyhoeddi, ond roedd dyn a dynes yn eu 40au ac yn dod o Gernyw a’r dyn arall yn ei 50au ac o’r tu allan i’r ardal.
Ymchwiliad
Mae’r RNLI yn dweud eu bod yn cynnal ymchwiliad i weld a oes angen newid trefniadau gwylio ar y traeth ond fe fyddai arwyddion clir yno, medden nhw, yn dweud nad oedd achubwyr ar gael.
Mae yna tua 25 o draethau’n cael eu gwarchod yng Nghymru – yn ôl yr RNLI, mae’r amseroedd yn dibynnu ar brysurdeb a chyflwr y traethau.