Dylan Thomas
Mae darlleniad marathon o holl waith Dylan Thomas yn dal i fynd yn ei flaen yn Abertawe i ddathlu canmlwyddiant geni’r bardd.

Ers ddoe, fe fu actorion a phersonoliaethau enwog, a phobol leol, yn darllen yr holl eiriau yr oedd Thomas wedi eu sgrifennu tros gyfnod o 36 awr.

Roedd tocynnau am y cyfan o’r Dylathon yn Theatr y Grand, Abertawe, yn costio £150 ond roedd modd prynu tocynnau teirawr hefyd.

Fe fydd y cyfan yn dod i ben am 11 y nos heno.

Digwyddiadau trwy’r byd

Mae’r digwyddiad yn ei ddinas enedigol yn un o gyfres o ddigwyddiadau dathlu ar ddwy ochr Môr Iwerydd.

  • Ddoe fe fu’r actor Cymreig, Michael Sheen, yn arwain cynhyrchiad newydd o’r ddrama Under Milkwood yn Efrog Newydd, gyda merch yr actor Richard Burton, Kate, hefyd yn cymryd rhan.
  • Yn ystod yr wythnos ddiwetha’, fe fu model o gwt sgrifennu Dylan Thomas yng nghanol Llundain.

Roedd Dylan Thomas wedi ei eni yn 5, Cwmdonkin Drive, Abertawe, gan mlynedd yn ôl i heddiw.