Yr eliffant yn Nhregaron adeg ffilmio Y Syrcas y llynedd (llun: S4C)
Fe fydd Y Syrcas, un o ffilmiau Nadolig S4C y llynedd, yn cael ei dangos mewn gŵyl ffilmiau yn Iwerddon brynhawn yfory.

Caiff gŵyl flynyddol Clones, yn swydd Monaghan, ei disgrifio fel ‘Gŵyl Ffilmiau Fach Fwyaf Iwerddon’, ac mae’n dangos amrywiaeth helaeth o’r math o ffilmiau na fyddai’n cael eu gweld mewn sinemâu prif ffrwd.

Fe fydd Y Syrcas yn mynd â’r gwylwyr yn ôl i Geredigion yn y flwyddyn 1848, a Thregaron yn deffro o’i thrwmgwsg wrth i’r syrcas a’i holl ryfeddodau ddod i’r dref.

Meddai Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Drama S4C:

“Rwy’n hynod o falch bod Y Syrcas yn cael ei dangos yn yng Ngŵyl Ffilmiau Clones. Dyma Ŵyl sy’n ymdrechu i ffeindio ffilmiau gwahanol, ffilmiau difyr, ffilmiau unigryw, ac mae’r ffaith eu bod nhw wedi dewis Y Syrcas yn glod mawr i bawb sy’n gweithio ar greu’r ffilm. Gobeithio y bydd y Gwyddelod a holl westeion yr Ŵyl yn cael blas arni.”

Yn teithio draw i Iwerddon yn arbennig ar gyfer y dangosiad mae Saran Morgan sy’n chwarae rhan Sara yn Y Syrcas, merch 15 mlwydd oed sy’n gwneud popeth i blesio ei thad fel arfer, tan i’r syrcas ddod i’r dref…

“Rwy’n dwlu ar gymeriad Sara,” meddai Saran, sydd newydd ddechrau astudio drama ym Mhrifysgol Queen Mary yn Llundain.

“Er ei bod hi’n ifanc ac wedi ei chysgodi rhag y byd, mae ganddi hi’r caledwch yma. Mae hi’n ferch sensitif a thyner, ond hefyd yn aeddfed iawn, ac mae’r holl elfennau yna yn llwyddo i greu cymeriad diddorol.

“Mae hon yn stori am gymuned sydd wedi torri bant o’r byd, ble mae crefydd a thraddodiadau yn bwysig. Pan mae’r syrcas yn dod i’r dre mae e’n anhygoel, yn rhywbeth newydd dydyn nhw erioed wedi ei weld o’r blaen. Mae e’n wrthgyferbyniad llwyr i’w bywydau, ac i Sara’n enwedig mae’n fyd cwbl newydd.”