Liz Saville
Bydd agwedd Plaid Cymru tuag at wasanaethu pob rhan o Gymru yn rhoi cymorth i gymunedau gwledig gyflawni eu potensial economaidd.

Dyna oedd neges ymgeisydd Plaid Cymru dros sedd Dwyfor Meirionydd yn San Steffan, Liz Saville wrth annerch cynhadledd flynyddol y Blaid yn Llangollen heddiw.

Dwedodd fod Cymru wledig yn fwrlwm o arloesedd, ond rhybuddiodd nad oedd Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwneud fawr ddim i gefnogi busnesau gwledig.

“Yr hyn sydd ei angen yn y cymunedau rwy’n ymgyrchu i’w cynrychioli yw swyddi a gwaith o ansawdd uchel,” meddai Liz Saville.

“Mae gennym gwmnïau arloesol ar hyd a lled Dwyfor Meirionydd, yn ogystal ag yn y parc menter, y cyngor sir ac mewn mentrau cymunedol.

“Fodd bynnag, ar lefel genedlaethol, fe gewch barhad y stereoteip mai mewn ardaloedd trefol yn unig y mae twf economaidd hyfyw yn digwydd. Mae hyn yn amlwg yng nghynlluniau Llywodraeth Lafur Cymru: prosiectau seilwaith fel yr M4, ac wrth gwrs, y pwyslais trwm ar ddinas-ranbarthau.

“Tra bod y cynlluniau hyn yn anelu i gyrraedd rhannau o Gymru sydd â phoblogaeth ddwys, dylai Llywodraeth Cymru hefyd feddwl am gefnogi’r economi mewn mannau eraill, a gwireddu ein gweledigaeth ni o ddyfodol ffyniannus i Gymru gyfan.”