Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau’r broses o ymgynghori i weld a ddylen nhw newid eu polisi ynglŷn â safle gwastraff niwclear.
Fe ddatgelodd Golwg nôl ym mis Ebrill eleni fod Llywodraeth Prydain yn ceisio canfod safle i gladdu gwastraff niwclear lefel uchel, ac y gallai safleoedd yng Nghymru gael eu hystyried.
Byddai unrhyw safle o’r fath yng Nghymru’n gorfod cael sêl bendith Llywodraeth Cymru – a ddywedodd ar y pryd nad oedd ganddyn nhw safbwynt ar y mater.
Maen nhw nawr yn holi a ddylen nhw newid y polisi hwnnw o beidio â datgan barn, gan olygu fod posibilrwydd y gallan nhw ddatgan a fyddan nhw’n cefnogi neu wrthwynebu claddfa o’r fath ymhen ychydig fisoedd.
Adrodd i Ewrop
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae’n rhaid iddyn nhw ddweud wrth yr Undeb Ewropeaidd beth yw eu safbwynt ar sut i gael gwared â gwastraff niwclear yn saff erbyn haf 2015.
Mae gan Brydain eisoes gwerth 60 mlynedd o wastraff niwclear yn deillio o ddatblygiadau milwrol a phwerdai, a pholisi llywodraeth San Steffan yw ei gladdu mewn storfa danddaearol.
Ond dyw Llywodraeth Cymru “ddim yn cefnogi na gwrthwynebu’r polisi hwnnw” ar hyn o bryd.
“Hoffwn bwysleisio, yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, hyd yn oed os fyddai Llywodraeth Cymru’n penderfynu mabwysiadu polisi oedd yn cynnwys claddfa ddaearegol o wastraff niwclear lefel uchel, na fyddai hyn o reidrwydd yn golygu gwastraff ymbelydrol yn cael ei gladdu yng Nghymru nac unrhyw ran o’r DU,” meddai’r Gweinidog dros Gyfoeth Naturiol, Carl Sargeant.
“Byddai unrhyw gladdfa yn y dyfodol yn dibynnu ar gymuned fyddai’n fodlon ei chynnal yn cynnig ei hun yn wirfoddol er mwyn dechrau trafodaethau.”
Dywedodd y Gweinidog blaenorol Alun Davies ym mis Mai nad oedd unrhyw gymuned yng Nghymru wedi mynegi diddordeb eto – gan fynnu nad oedd yr ymgynghoriad unrhyw beth i’w wneud â gwaith Llywodraeth Prydain o geisio canfod safle ar gyfer claddfa.
Chwilio am safle
Ym mis Ebrill fe ddatgelodd Golwg fod safleoedd yng Nghymru gan gynnwys ardaloedd Wylfa a Thrawsfynydd yn cael eu hystyried ar gyfer claddfa o’r fath, oherwydd eu bod eisoes yn gartref i bwerdai niwclear.
CoRWM, corff sydd yn rhan o Lywodraeth Prydain, sydd â chyfrifoldeb dros ddatrys beth yn union fydd yn cael ei wneud â gwastraff ymbelydrol y Deyrnas Unedig.
Byddai unrhyw gladdfa sydd yn cael ei hadeiladu yng Nghymru’n gorfod cael caniatâd Llywodraeth Cymru, gyda’r gymuned leol hefyd yn gorfod cynnig ei hun ar gyfer y safle.
Roedd awgrym y gallai manteision economaidd gael eu cynnig i ardaloedd fyddai’n fodlon cynnig eu hunain ar gyfer safle o’r fath.
Gwrthwynebiad
Pan dorrodd y stori fe gafwyd ymateb chwyrn i’r posibilrwydd, gydag Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad Ynys Môn – y ddau o blaid ynni niwclear – yn datgan eu gwrthwynebiad.
Yn ôl Albert Owen a Rhun ap Iorwerth, doedden nhw ddim am weld safle ar yr ynys fyddai’n gorfod cadw gwastraff niwclear Prydain gyfan, a hynny am y cannoedd o filoedd o flynyddoedd y mae’n cymryd i’r deunydd ymbelydrol ddirywio.
Fe gynhaliodd CoRWM gyfarfod cyhoeddus ar Ynys Môn ym mis Medi, gyda Rhun ap Iorwerth yn beirniadu’r corff am beidio â chadw cofnodion o’r gwrthwynebiad a godwyd i gladdfa niwclear y noson honno.
Ond fe ddywedodd CoRWM wrth golwg360 nad oedden nhw wedi cadw cofnodion oherwydd bod y cyfarfod yn un anffurfiol, ac nad oedden nhw yno i drafod claddfa ar gyfer gwastraff ymbelydrol y DU ond yn hytrach am wastraff atomfa Wylfa.
Mae’r ymgynghoriad yn para tan 22 Ionawr 2015, a’r wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.