Mae ffermwr o ardal Casnewydd wnaeth orfodi dyn i weithio ar ei fferm yn ddi-dâl am 13 mlynedd wedi ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner yn y carchar.
Dywedodd y barnwr, Neil Bidder QC, nad oedd David Daniel Doran, 42, wedi trin y dyn llawer gwell na chaethwas.
Fe wnaeth David Doran bledio’n euog i’r cyhuddiad yn Llys y Goron Caerdydd ar yr wythfed o Hydref.
Roedd tad David Doran, Daniel Doran, hefyd yn cael ei gyhuddo o gaethiwo Darrell Simester o Kidderminster ar eu fferm, ond gollyngwyd y cyhuddiad yn ei erbyn.
Y cefndir
Daethpwyd o hyd i Darrell Simester, o Kidderminster, oedd wedi bod ar goll ers 2000, ar Fferm Cariad yn ardal Maerun ger Casnewydd y llynedd.
Yn ystod yr achos, clywodd y rheithgor ei fod wedi bod yn cysgu mewn sied gyda llygod mawr am fwy na degawd, cyn cael ei symud i garafán fudr ac oer gyda drws wedi torri.
Dywedodd John Hipkin QC ar ran yr erlyniad, bod teulu Darrell Simester wedi dweud ei fod mewn “cyflwr erchyll” pan ddaethpwyd o hyd iddo a’i bod hi bron yn amhosibl ei adnabod.
Y mis diwethaf, roedd Daniel Doran, a’i fab David Doran, o Lanbedr Gwynllŵg wedi pleidio’n ddieuog i gyhuddiad o orfodi Darrell Simester i weithio ar y fferm