Mae ymgyrchwyr sydd eisiau ail-agor bar cerddoriaeth Y Parrot yng Nghaerfyrddin yn gofyn am gyfraniadau ariannol gan y cyhoedd.

Eisoes mae Cymuned Cerddorol Gorllewin Cymru wedi llwyddo i gasglu £1,440 ac yn anelu at gyrraedd targed o £10,000 o fewn y mis nesaf.

Bwriad y grŵp – sy’n cynnwys cerddorion, rheolwyr bar a chantorion fel Mared Lenny neu Swci Boscawen – yw ail-agor, gwella a datblygu’r Parrot a’i redeg fel sefydliad dielw ar gyfer y gymuned.

Mae angen o leiaf £10,000 er mwyn talu rhent ac ailwampio’r bar ac mae Cymuned Cerddorol Gorllewin Cymru yn ffyddiog bod digon o gefnogaeth yn yr ardal i gyrraedd eu nod.

“Roedd hi’n siomedig i bawb yn y sin gerddoriaeth pan gaeodd Y Parrot. Ond mae gennym ni gyfle i’w ail-agor ac i hyd yn oed ei wneud yn well nag erioed,” meddai Steffan Storch sy’n aelod o’r grŵp.

“Unwaith y byddwn ni’n cyrraedd ein targed, fe fyddwn ni’n medru ail-agor Y Parrot gyda pharti enfawr.”

‘Ofnadwy’

Fe gaeodd y bar ym mis Awst am nad oedd y perchnogion yn medru ei gynnal fel busnes mwyach. Roedd wedi croesawu artistiaid fel Meic Stevens, Cate Le Bon, Gulp, Robin Williamson, Alisdair Roberts a Dave Datblygu a hefyd yn llwyfan gwerthfawr i gerddorion newydd.

“Mae’r banc yn ceisio gwerthu’r bar ac yn ceisio dod o hyd i denant newydd ar gyfer yr adeilad,” meddai llefarydd ar wefan yr ymgyrch.

“Rydym ni yng Ngrŵp Cerddoriaeth Gorllewin Cymru yn meddwl y byddai hyn yn ofnadwy. Ofnadwy i Gaerfyrddin, i sin gerddoriaeth gorllewin Cymru ac i gefnogwyr ffyddlon y Parrot.

“Rydym eisiau gwneud yn siŵr fod Y Parrot yn cael ei gadw fell le ar gyfer cerddoriaeth fyw a chymryd y cyfle hwn i’w wneud yn fwy ac yn well nag erioed o’r blaen.”

Gellir cyfrannu at yr ymgyrch yma: https://www.indiegogo.com/projects/save-the-parrot-and-make-it-even-better