Sgets o'r darlun sydd ar waith
Mae artist o Fethesda wrthi’n paentio llun sy’n “sylwebaeth gymdeithasol” ar dref Caernarfon.
Ers dydd Llun mae Jeremy Cullimore wedi bod yn gweithio ar y darlun ger y bar yn adeilad y Galeri, ac yn falch o gael gweithio’n gyhoeddus a derbyn sylwadau gan bobol sy’n pasio heibio.
“Yr holl bwynt yw bod pobol yn cael dod ata i a holi am y llun,” meddai’r artist.
“Mae lot o bobol wedi bod yn bositif ac mae’n brofiad da i fi.”
Ymgais yw ei lun i bryfocio a phrocio ymateb gan bobol.
Mae’n darlunio bwrdd gydag un gadair yn y cysgod a’r llall yn mwynhau’r heulwen.
“Rydw i’n edrych ar Gaernarfon a gofyn ‘Lle mae’r arian? Lle mae’r swyddi?’
“Yn ceisio dangos pa mor wahanol all bywydau dwy ddynes fod o ran cyfleon ac addysg…mae’n destun pigog.
“Ar un ochr i’r llun mae ganddoch chi’r goriadau i’r Audi, designer handbag, travel luggage posh, cadair wedi ei dylunio, i-pad a choffi espresso gyda bisged fanila a chardiau credyd.
“Ac yna ar yr ochr dlawd mae ganddoch chi’r tocyn loteri, sglodion, blwch llwch, facebook ar y ffôn symudol, tocyn bws a’r pram.”
Bydd Jeremy Cullimore yn parhau i baentio’r darlun yr wythnos nesaf, ac mi fydd y gwaith gorffenedig yn cael ai ddangos yn y Galeri yng Nghaernarfon am fis.