Mae gweddillion Corwynt Gonzalo wedi taro Cymru dros nos ac mae disgwyl i’r tywydd garw barhau yn ystod y dydd.

Mae disgwyl i wyntoedd o 75mya daro ardaloedd arfordirol gan darfu ar deithwyr.

Mae un lôn o’r Bont Hafren wedi cau oherwydd y gwyntoedd cryfion ac mae na gyfyngiadau cyflymder ar Bont Britannia, Ynys Môn.

Mae hyd at 110 o hediadau wedi cael eu canslo ym maes awyr Heathrow ac mae taith awyren Air France/KLM o Amsterdam I faes awyr Caerdydd wedi ei chanslo oherwydd glaw a gwyntoedd cryfion yn Amsterdam.

Mae rhai llongau cyflym rhwng Caergybi a Dulyn wedi cael eu canslo meddai Irish Ferries ac mae gwasanaethau eraill yn rhedeg yn hwyr. Mae teithwyr yn cael eu hannog i gysylltu â’r cwmnïau hwylio cyn cychwyn ar eu taith.

Yn y cyfamser mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio pobl i gadw draw o’r arfordir. Cafodd gwyntoedd o 75mya eu cofnodi yn Aberdaron dros nos.

Mae coeden wedi chwythu i lawr ar yr A486 ym Mhentref Bryn, Ceredigion ac mae coeden wedi syrthio ar yr A488 ym Mhenybont ym Mhowys.

Mae tua 350 o dai heb drydan yng Ngheredigion, Rhondda Cynon Taf a Phowys ar hyn o bryd ond mae Western Power Distribution yn gobeithio adfer y cyflenwad i gartrefi erbyn 5 prynhawn ma.

Oherwydd llifogydd mae gwasanaeth bws wedi cymryd lle trenau rhwng Llanrwst a Blaenau Ffestiniog, gyda’r amhariad yn debygol am weddill y dydd.