Un o luniau Kyffin Williams
Mae ffrâm oedd yn dal un o baentiadau enwocaf yr artist o Fôn, Syr Kyffin Williams wedi cael ei ddarganfod mewn toiled wedi i’r darlun gael ei ddwyn yn Llundain.
Cafodd ‘Landscape at Llanaelhaearn’ ei ddwyn o’r Royal Festival Hall yng Nghanolfan Southbank yng nghanol Llundain fis diwethaf.
Daeth staff y ganolfan o hyd i’r ffrâm wedi’i thorri mewn ciwbicl yn ddiweddarach.
Cafodd y darlun enwog ei baentio yn 1947, ac fe fu’n rhan o arddangosfa ers mis Tachwedd y llynedd, wedi i’r ganolfan ei dderbyn gan Gasgliad y Cyngor Celfyddydau.
Mae adran gelf a henebau Heddlu Scotland Yard wedi apelio am wybodaeth.