Guto Bebb
Mae’r Blaid Lafur yng Nghymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yn dangos nad oes ganddyn nhw ffydd yn eu hetholwyr trwy wrthod cefnogi refferendwm ar ddyfodol Prydain yn Ewrop.
Dyna ddywedodd Guto Bebb wrth golwg360 cyn iddo gymryd rhan mewn dadl yn Nhŷ’r Cyffredin y bore yma i drafod Mesur yr Undeb Ewropeaidd sy’n galw am gynnal refferendwm i benderfynu a fyddai Prydain yn aros o fewn yr Undeb neu beidio.
Ychwanegodd bod y tair plaid dan sylw yn “annemocrataidd” am beidio gadael i etholwyr Cymru ddweud eu dweud tros gynnal refferendwm:
“Dw i’n meddwl ei bod hi’n hollol glir o weithredoedd y Blaid Lafur, y Rhyddfrydwyr a Phlaid Cymru nad oes ganddyn nhw ffydd yn etholwyr Cymru, neu mi fasen nhw wedi gadael i bobol Cymru gael llais yn y mater,” meddai.
Cefnogaeth
Er ei fod yn cefnogi’r Mesur, nid yw Guto Bebb o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Ond hoffai weld Prydain yn ail-drefnu’r berthynas gydag Ewrop.
“Rydym ni gyd yn ymwybodol o’r problemau sydd yn Ewrop, o ran cael unrhyw fath o effeithlonrwydd o ddefnydd call o arian,” meddai Guto Bebb.
“Mi fyswn i’n hoffi gweld y Prif Weinidog yn ail-drefnu’r berthynas sydd ganddom ni hefo Ewrop fel ein bod ni’n gallu parhau i elwa o’r berthynas – ond hefo llawer iawn llai o’r problemau sydd yn bodoli ar hyn o bryd.
Annemocrataidd
Ond nid yw’r AS yn ffyddiog y bydd y Mesur yn cael ei basio a hynny oherwydd “dull annemocrataidd arferol” y Blaid Lafur, y Rhyddfrydwyr a Phlaid Cymru:
“Mi basiodd y mesur drwy’r Tŷ Cyffredin y llynedd, ond yn eu dull annemocrataidd arferol mi ddaru’r Blaid Lafur, y Rhyddfrydwyr a Phlaid Cymru bleidleisio yn erbyn y Mesur yn Nhŷ’r Arglwyddi.
“Dw i’n disgwyl i’r un peth ddigwydd eto – y bydd yn Mesur yn cael ei basio gan Dŷ’r Cyffredin ond yn cael ei ladd yn Nhŷ’r Arglwyddi gan arglwyddi o’r tair plaid sy’n honni eu bod nhw’n ddemocrataidd.”
Plaid Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru:
“Mae Plaid Cymru yn gwbl argyhoeddedig fod Cymru yn gryfach fel rhan o’r Undeb Ewropeaidd. Mae mwy na 150,000 swydd yng Nghymru yn dibynnu ar ein aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, ac rydym yn elwa o fuddsoddiad yn ein isadeiledd, buddsoddiad mewn amaeth ac addysg.
“Petai refferendwm ar ein aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn cael ei alw, byddwn yn ymgyrchu i Gymru barhau yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd ac i gryfhau llais Cymru yno.”
Democratiaid Rhyddfrydol
Dywedodd Eluned Parrott AC, Llefarydd Ewrop Democratiaid Rhyddfrydol Cymru:
“Unwaith eto, mae’r Torïaid yn ceisio erlid UKIP drwy bogailsyllu dros Ewrop. Mae galw’r Ceidwadwyr am refferendwm dim ond er budd eu plaid eu hun – dydy hi ddim er lles Cymru na gweddill y DU o gwbl.
“Roeddem ni’n glir iawn yn ystod yr etholiadau Ewropeaidd byddai gadael yr UE yn bygwth swyddi a thwf economaidd, a chefnogwyd ein hachos gan nifer fawr o fusnesau rhyngwladol. Mae Democratiaid Rhyddfrydol yn y Llywodraeth wedi deddfwriaethu am y tro cyntaf erioed ar yr amgylchiadau bydd rhaid cynnal refferendwm, ac mae Nick Clegg wedi ychwanegu at hynny drwy ddweud dylai’r refferendwm hynny fod yn gwestiwn mewn/mas. Ond gyda’n heconomi ni dal yn fregus, nid nawr yw’r amser i fygwth buddsoddiad a swyddi gyda’r risg o adael yr UE.”
Mae golwg360 wedi ceisio cysylltu â’r Blaid Lafur yng Nghymru am ymateb.