Dafydd Elis-Thomas
Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg bod yn rhaid i Blaid Cymru dderbyn bod mewn llywodraeth glymblaid “yn gyson” er mwyn gallu efelychu’r SNP a chynyddu ei phleidlais.

“Dyna oeddwn i’n ddweud cyn yr etholiad Cynulliad diwethaf [yn 2011],” meddai’r Aelod Cynulliad dros Ddwyfor Meirionydd.

“Fe ddewisodd y Blaid ymladd ymgyrch negyddol a dw i’n dal ddim yn deall y rhesymeg dros y ddadl honno.

“Y wers fwyaf o’r SNP ydi drwy lywodraethu’n dda yn eich gwlad mae’n bosib perswadio pobol ei bod hi’n iawn i’r wlad gael mwy o rym. Does yna ddim cwestiwn am y peth i mi.

“Waeth i bobol beidio cwyno am y Blaid Lafur gan ddweud bod Cymru’n wlad un blaid. Dydi hi ddim, does gan [Llafur] ddim mwyafrif beth bynnag yn y Cynulliad, nag ym mhleidlais gyffredin y wlad.”

Neges negyddol yn dda i ddim

Ar gyfer ymgyrch etholiadol y Cynulliad yn 2016 rhaid i Blaid Cymru gynnig atebion yn hytrach na gweld bai, ac mae’n rhaid iddi fod yn fodlon ffurfio clymblaid.

Dyna neges yr Arglwydd Elis-Thomas sy’n credu bod angen i’r Blaid feithrin hygrededd drwy gael ei gweld mewn llywodraeth.

“Ein bai ni ydi o ein bod ni heb berswadio mwy o bobol ein bod ni’n ffit i lywodraethu,” meddai. “Wrth siarad yn negyddol heb gynnig pethau positif dydi hynny ddim yn help. Yn yr etholiad nesaf mae’n rhaid i ni gael rhaglen glir a phositif gan gydweithio mewn llywodraeth.”

Cyfweliad llawn yn rhifyn wythnos yma o Golwg