Mae ffermwyr o Gymru yn awyddus i roi cynnig ar brosiect newydd sy’n anelu at greu elw gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf.

Hybu Cig Cymru sy’n gyfrifol am y cynllun peilot gwerth bron i £1 miliwn fyddai’n golygu bod ffermwyr yn defnyddio technoleg arbennig i adnabod eu hanifeiliaid.

Cafodd y peilot ei gyhoeddi gan y Dirprwy Weinidog Amaeth a Bwyd, Rebecca Evans a’r gobaith yw y bydd gwefan yn cael ei sefydlu erbyn mis nesaf wrth i gannoedd o ffermwyr ddatgan eu cefnogaeth i’r cynllun.

Bydd gofyn i ffermwyr gymryd rhan mewn holiadur ar-lein ac fe fyddan nhw’n cael eu holi am eu technoleg nhw eu hunain.

Gall unrhyw ffermwr sy’n llenwi’r holiadur hawlio £500 i’w ddefnyddio i brynu cyfarpar newydd.

Dywedodd Rheolwr Strategaeth Gorfforaethol a Pholisi Hybu Cig Cymru, Julie Finch: “Er mai mis diwethaf y cafodd y cynllun peilot hwn ei gyhoeddi, mae’r ymateb gan y gymuned ffermio wedi bod yn wych.

“Mae hyn yn profi bod ffermwyr Cymru’n flaengar eu meddyliau ac yn awyddus i fabwysiadau dulliau cyfoes gan eu bod nhw’n gallu gweld y manteision i’w busnesau.

“Mae’r prosiect yn agored i holl fusnesau cofrestredig Cymru sydd â mwy na 100 o famogiaid.

“Bydd ffermwyr sy’n cymryd rhan yn y prosiect peilot hwn yn derbyn gwybodaeth, hyfforddiant a chefnogaeth yn ymwneud â manteision ymarferol cofnodi electronig.”