Fe fydd angladd dyn 39 oed fu farw mewn tân yn cael ei gynnal yn y dref heddiw, union wythnos wedi’r digwyddiad.

Ac mae’r un dyn a ddaeth trwy’r trychineb yn fyw wedi galw ar bobol i wneud yn siŵr eu bod yn gosod larymau tân yn eu tai.

Roedd Doug MvTavish, 39,  wedi marw ar ôl cael ei gario i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol ar ôl y tân yn Llanrwst yn gynnar fore dydd Gwener diwetha’.

Roedd dyn arall, Bernard Hender, 19, wedi marw yn yr un digwyddiad ond fe lwyddodd dyn busnes, Garry Lloyd Jones, 48 oed, i ddianc heb anaf o’r fflat yn Sgwâr Ancaster yn y dref yn Nyffryn Conwy.

‘Gosodwch larymau’

Mae Garry Jones bellach wedi gwneud cyfweliadau’n cefnogi galwadau ar i bobol osod larymau tân yn eu cartrefi.

Ddoe, fe wnaeth Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru dynnu sylw hefyd at wneud yn siŵr fod offer trydan yn ddiogel.

Maen nhw’n credu mai nam mewn sychwr dillad oedd yn debygol o fod wedi achosi’r tân.

Rhybudd y gwasanaeth

“Mae’n bwysig eich bod yn defnyddio cyfarpar trydanol yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a’ch bod yn archwilio offer trydanol a gwifrau rhag ofn eu bod wedi eu difrodi neu dreulio,” meddai Gary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân.

“Mae nifer o drigolion heb yn wybod iddyn nhw yn defnyddio hen gyfarpar trydanol neu gyfarpar peryglus ac yn gorlwytho socedi.

“Mi all hynny arwain at ganlyniadau trasig iawn fel yn achos y tân yn Llanrwst yr wythnos diwethaf,” meddai.