Yn dilyn cyfres o archwiliadau ar hap yn ysbytai Cymru, ni wnaeth swyddogion ddod o hyd i unrhyw broblemau difrifol o ran gofal cleifion hŷn, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.

Er hyn, fe ddaeth i’r amlwg fod angen gwelliannau ar draws Cymru i sicrhau fod meddyginiaethau’n cael eu rhoi a’u cadw’n ddiogel mewn wardiau pobl hŷn.

Mae’r adroddiad yn galw am adolygiad pellach i’r defnydd cyffredinol o feddyginiaeth wrthseicotig ar gyfer helpu cleifion hŷn â dementia i gysgu.

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, oedd wedi gorchymyn i’r ymweliadau dirybudd gael eu cynnal.

Roedd yn ymateb i adroddiad Ymddiried mewn Gofal, a ddangosodd bod pryderon difrifol am ansawdd y gofal ac am ddiogelwch cleifion yn rhai o wardiau Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.

Pedwar maes

Cafodd yr ymweliadau ar hap eu cynnal rhwng 15 Mehefin a 30 Mehefin yn wardiau cleifion mewnol i oedolion mewn 20 o ysbytai yng Nghymru.

Roedd pwyslais ar bedwar maes a gafodd sylw yn adroddiad Ymddiried mewn Gofal: rhoi meddyginiaeth i gleifion; sicrhau bod cleifion yn cael digon o ddŵr; y defnydd o dawelyddion gyda’r nos; a gofal ymataliaeth (mynd i’r toiled).

Gwelliant

“Doedd y tîm adolygu ddim wedi gweld unrhyw beth sylweddol a oedd yn destun pryder o ran hydradu cleifion, eu hanghenion o ran ymataliaeth, nac o ran defnyddio tawelyddion, ac roedden nhw’n canmol yr enghreifftiau da o ofal a welon nhw,” meddai Mark Drakeford.

“Ond, roedd rhai meysydd unigol a oedd angen eu gwella, yn arbennig o ran rheoli meddyginiaethau.

“Byddwn ni’n defnyddio canfyddiadau’r archwiliadau dirybudd i’n helpu ni i barhau i wella gofal pobl hŷn yng Nghymru, a bydd y gwersi yr ydyn ni wedi’u dysgu’n cael eu rhannu ledled GIG Cymru.”