Yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru, ni all y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru (GIG) barhau fel y mae yn ei ffurf bresennol.
Huw Vaughan Thomas
diad blynyddol am berfformiad y GIG yng Nghymru, mae Huw Vaughan Thomas yn rhybuddio y bydd angen “gwneud penderfyniadau anodd er mwyn newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, a bydd angen cefnogaeth gwleidyddion i wneud hyn.”

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar dri phrif faes; rheolaeth ariannol, targedau perfformiad a chynllunio ar gyfer GIG Cymru yn y dyfodol.

Yn ôl yr adroddiad fe lwyddodd GIG Cymru i fantoli’r gyllideb ar ôl i Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru gael £200 miliwn o arian ychwanegol gan adrannau eraill a chronfeydd wrth gefn, ac ar ôl i gyrff y GIG orfod gwneud arbedion ariannol sylweddol.

Serch hynny roedd tri bwrdd iechyd wedi gorwario ac roedd y gwasanaeth yn ganolog wedi gorfod llenwi’r diffyg ariannol.

Canfu’r adroddiad hefyd mai “cymysg” fu perfformiad gwasanaethau ar draws GIG Cymru yn 2013-14 ac na chafodd llawer o dargedau allweddol eu cyflawni, fel amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau a drefnwyd a gwasanaethau brys, yn rheolaidd.

Angen ‘newid trawsnewidiol’

Wrth edrych i’r dyfodol, mae’r adroddiad yn dweud fod cynlluniau integredig tair blynedd yn gam cadarnhaol ymlaen ond y bydd yn “anodd i GIG Cymru wneud cynnydd heb newid trawsnewidiol.”

Mae’r adroddiad yn nodi sawl pwynt cadarnhaol, gan dynnu sylw at ymrwymiad cyrff y GIG i ddod o hyd i arbedion, cynnydd cadarnhaol yn erbyn rhai targedau perfformiad (yn enwedig data marwoldeb ac integreiddio rhannau gwahanol o’r GIG) yn ogystal â’r posibilrwydd y gallai’r syniadau sy’n dod i’r amlwg am ofal iechyd darbodus arwain at wasanaethau gwell am gost is.

‘Risgiau a heriau’

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas: “Er gwaethaf ymdrech sylweddol, mae cyrff y GIG yn ei chael hi’n fwyfwy anodd rheoli arbedion, ac mae’r ffaith bod cyfrifon tri o gyrff y GIG wedi cael eu hamodi yn gynharach eleni yn arwydd o hyn.

“Mae’n braf gweld bod perfformiad mewn meysydd fel atal yn gwella ond nid yw rhai targedau o ran gofal canser a strôc yn cael eu cyrraedd ac mae amseroedd aros ar y cyfan wedi gwaethygu.

“Er ei bod yn galonogol gweld bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno fframwaith tair blynedd, mae nifer o risgiau a heriau i ddod o hyd a fydd yn profi ac yn herio’r GIG i beidio â defnyddio mwy na’r cyllidebau refeniw a chyfalaf a ddyrannwyd iddo.

Yr hyn sy’n glir yw na all y GIG barhau fel y mae. Bydd angen gwneud penderfyniadau anodd er mwyn newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, a bydd angen cefnogaeth gwleidyddion i wneud hyn.”

‘Pryder’

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Darren Millar, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad: “Mae’n destun pryder bod tri o sefydliadau’r GIG wedi methu â mantoli’r cyfrifon y llynedd ac nad yw targedau amseroedd aros na thargedau perfformiad allweddol eraill yn cael eu cyrraedd.

“Er bod arwyddion o ddull mwy hirdymor tuag at gynllunio, bydd cryn amser eto cyn y gallwn fesur effaith y trefniadau cynllunio ariannol newydd sy’n cael eu gosod o ganlyniad i Ddeddf Cyllid y GIG (Cymru), yr oedd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn rhan fawr o’i hyrwyddo.

“Mae’r Pwyllgor wedi cadw diddordeb mawr yn y GIG dros y blynyddoedd diweddar a bydd yn ystyried yr adroddiad diweddaraf hwn yn ei gyfarfod ar 11 Tachwedd 2014.”

‘Effaith ddirfawr’

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Nick Ramsay “fod y toriadau i’r gyllideb yn cael effaith ddirfawr ar wasanaethau cleifion, gyda thargedau allweddol yn methu, gyda’r adroddiad yn casglu mai ‘cymysglyd’ yw perfformiad y GIG.”