Helen Mary Jones
Helen Mary Jones sydd wedi cael ei dewis gan Aelodau Plaid Cymru i gynnig i fod yn Aelod Cynulliad Llanelli yn etholiadau 2016.
Roedd hi’n AC tros y blaid o 1999-2011 ac fe gafodd ei hethol yn Gadeirydd Cenedlaethol Plaid Cymru ym mis Medi 2011.
Yn siarad ar ôl cael ei hethol, dywedodd: “Rwyf yn falch iawn o gael fy newis i frwydro dros y sedd yma unwaith eto.
“Rwy’n awyddus i gynrychioli pobol Llanelli a’r pethau sy’n effeithio eu bywydau bob dydd – mae’n rhaid i ni adeiladu ein heconomi, brwydro dros swyddi a gwarchod ein gwasanaethau cyhoeddus fel iechyd ac addysg.
“Rydym yn gwybod y gallai pethau fod yn well ar gyfer y dyfodol ac rwy’n benderfynol y bydd Llanelli yn cael dyfodol gwell.”
‘Brwydro’
Ychwanegodd Leanne Wood: “Mae gan Helen Mary Jones hanes cryf o sefyll i fyny dros bobol Llanelli ac rwy’n gwybod ei bod hi’n benderfynol o barhau gyda’r gwaith yma.
“Mae ganddi record wych o frwydro dros wasanaethau lleol a swyddi ac rwy’n gobeithio y bydd pobol yn rhoi cyfle iddi hi, ynghyd a Vaughan Williams, fod yn gynrychiolwyr cryf.”