Mae Llywodraeth Cymru yn annog cwsmeriaid i ofyn i fusnesau am eu sgôr hylendid wrth archebu bwyd dros y ffôn, yn ôl rheolau newydd sy’n cael eu hargymell.

Mae hi bellach yn ofynnol i fusnesau bwyd – gan gynnwys tai bwyta, bwytai tecawe ac archfarchnadoedd – i ddangos eu sticeri sgoriau hylendid bwyd, sy’n rhoi sgôr o 0 i 5, mewn lle amlwg.

Bydd y rheolau newydd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau bwyd roi gwybod i bobl sut y gallan nhw weld eu sgôr hylendid bwyd.

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford wedi cyhoeddi y gallai’r rheoliadau newydd ddod i rym ym mis Chwefror 2015. Maen nhw’n destun ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd.

Gwefan sgorio hylendid bwyd

Dywedodd Mark Drakeford: “Mae’r cynllun sgorio hylendid bwyd wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac mae mwy na 50% o fusnesau bwyd yng Nghymru eisoes wedi cael sgôr o bump. Rwyf hefyd yn falch i weld bod nifer y busnesau bwyd â sgôr is, yn gostwng.

“Fodd bynnag, rwyf hefyd yn credu ei bod yn bwysig bod cwsmeriaid yn fwy ymwybodol o’r wefan sgorio hylendid bwyd, yn arbennig pan maen nhw’n archebu bwyd dros y ffôn.

“Bydd y rheolau rydyn ni’n eu cynnig yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau bwyd arddangos datganiad dwyieithog syml, a fydd yn rhoi cyngor i gwsmeriaid am ble gallan nhw weld y sgôr hylendid ar gyfer y busnes bwyd hwnnw. Bydd hefyd yn eu hannog i holi am y sgôr wrth archebu bwyd dros y ffôn.

“Nid wyf am orlethu busnesau gyda rheoliadau, a byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb i rannu eu barn am y cynigion hyn. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn ymarferol i gwsmeriaid, i fusnesau bwyd a’r rhai sy’n ei gorfodi, fel ei gilydd.”