Douglas Carswell
Mae arweinydd Ukip wedi diystyru dod i unrhyw gytundeb gyda’r Ceidwadwyr cyn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi dod dan bwysau gan aelodau meinciau cefn i ystyried rhyw fath o gytundeb gyda Ukip yn yr etholiad cyffredinol nesaf ym mis Mai.
Ond mae Nigel Farage wedi mynnu nad “plaid hollt” o’r Ceidwadwyr yw Ukip.
“Ry’n ni eisiau ennill ein cynrychiolaeth ein hunain yn San Steffan ac ry’n ni credu mai dim ond trwy wneud hynny y gallwn ni newid gwleidyddiaeth ym Mhrydain,” meddai wrth Sky News.
“Nid ydw i’n credu gair mae David Cameron yn ei ddweud ac am y rheswm hynny nid oes pwrpas cynnal trafodaethau.”
Mae Nigel Farage a Douglas Carswell wedi bod yn ymgyrchu yn Rochester a Strood yng Nghaint bore ma er mwyn ennyn cefnogaeth i’w hymgeisydd Mark Reckless, cyn-Aelod Seneddol y Blaid Geidwadol.
Wrth annerch cefnogwyr y blaid yn yr etholaeth yng Nghaint dywedodd Nigel Farage fod ei blaid yn “targedu pawb yn yr ymgyrch yma.”
Mae Douglas Carswell wedi annog pobl i “ddewis newid” ac mae wedi beirniadu pleidiau eraill am eu hymgyrch i geisio pardduo enw Mark Reckless.
Ddoe, fe enillodd Douglas Carswell y sedd yn Clacton gyda mwyafrif o 12,404 dros yr ymgeisydd Ceidwadol, Giles Watling, gan ennill bron i 60% o’r bleidlais.
Roedd Carswell wedi achosi isetholiad yn Clacton trwy adael y Ceidwadwyr a sefyll dan faner Ukip.