Neil Kinnock
Fe wnaeth Neil Kinnock, cyn-arweinydd y Blaid Lafur, “fradychu’r” glowyr oedd ar streic tros benderfyniad Margaret Thatcher i gau’r pyllau glo, am iddo beidio â’u cefnogi ar y lein biced ac yn y ralïau.

Dyna fydd y gwleidydd Adam Price yn ei ddweud mewn rhaglen ar S4C heno sy’n trafod ei atgofion o gyfnod Streic y Glowyr rhwng 1984-85.

Yng ngolwg Adam Price, a oedd yn ei arddegau pan gychwynnodd y streic, fe wnaeth Neil Kinnock “aberthu’r glowyr ar allor ennill yr etholiad nesaf”:

“Fel arweinydd y Blaid Lafur ac fel mab i löwr o weithfeydd y de, roedd llawer ohonom yn y mudiad yn teimlo y byddai’n cymryd y cyfle i gefnogi’r streic ac i fod ar y llinell biced ac yn mynd i’r ralïau. Doedden ni ddim yn deall pam nad oedd Kinnock yn gwneud hynny,” meddai Adam Price.

“Roedd e wedi dewis ei lwybr. Unwaith yr wyt ti’n dewis mynd yn arweinydd Prydeinig y Blaid Lafur, wedyn mae rhai pethau y mae’n rhaid ichi eu haberthu er mwyn dilyn y rhesymeg.

“Fe wnaeth aberthu’r glowyr ar allor ennill yr etholiad nesaf.”

Arthur Scargill – ‘un o ffigyrau canol yr ugeinfed ganrif’

Yn ogystal â chyfweld Neil Kinnock, bydd Adam Price yn trafod dylanwad Arthur Scargill, y dyn wnaeth arwain Undeb Cenedlaethol y Glowyr o 1982 hyd at 2002:

“Mae’n ffigwr mor ganolog ac ni fyddai’r streic wedi bod heblaw am Arthur Scargill, ei garisma a’i ddoniau anhygoel fel arweinydd,” meddai cyn Aelod Seneddol Plaid Cymru.

“Mae’n un o ffigurau canolog yr ugeinfed ganrif, yn un o’r ffigyrau prin hynny nad oedd yn gorfod gofyn caniatâd gan bobl eraill i gredu beth oedd yn ei gredu. Mae’n cynrychioli mudiad a brwydr a gollwyd yn y diwedd.

“Mae’n ddyn preifat iawn er ei fod e’n ffigwr mor gyhoeddus ar un amser, yn ddyn cymhleth iawn a fydd yna ddim cyfle i ddeall y cymhlethdod nawr ei fod wedi cau ei hun i ffwrdd. Mae’n drueni gweld rhywun mor huawdl nawr mor fud.”

Bydd y rhaglen, fydd hefyd yn clywed gan AS Plaid Cymru, Yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas a chyn-swyddog Undeb y Glowyr a’r cyn AS Llafur Kim Howells, yn cael ei darlledu am 9:30 yr hwyr ar S4C heno.