Bodhi, sef Olly Howells a Luke Welsby
Bydd menter newydd yn dod i Ogledd Cymru’n fuan gan gynnig gig cerddorol am ddim – os ddowch chi â’ch offer trydanol i’w hailgylchu.

Mae’r fenter Gwneud Sŵn wedi ailgylchu tunelli o wastraff electronig wrth gynnal nosweithiau am ddim yn gyfnewid am ddarn o offer trydanol mewn amryw o leoliadau ar draws Prydain.

Cynhaliwyd nosweithiau llwyddiannus yn Brighton, Belffast, Nottingham, Leeds, Glasgow, Llundain, Caerdydd a Bryste ac eleni daw’r fenter i Fangor i gynnal gig cerddoriaeth dawns ac electronig newydd yn Greeks, Bangor Uchaf.

Ni fydd angen arian ar fynychwyr y gig, dim ond iddyn nhw ddod ag un offeryn trydanol gyda nhw i’w rhoi ar y drws ac fe gawn nhw fynd mewn. Yn ôl trefnwyr y noson, gall fod yn unrhyw beth sydd â phlwg neu fatri.

Daw’r noson i Fangor ar nos Iau, 23 Hydref ac mae rhestr lu o artistiaid gwahanol ar gyfer y noson.

Uchafbwynt y noson fydd Bodhi, sef Olly Howells a Luke Welsby o Gaerdydd sydd yn chwarae cerddoriaeth â dylanwadau Ffync.

Bydd Ifan Dafydd, sy’n byw yn lleol hefyd yn chwarae ar y noson, yn ogystal â Gwenno a’r Pencadlys, cerddorion electronig sy’n enwau adnabyddus ar y Sîn Roc Gymraeg.

Mae Tom Brady a Gavin Hogan (Strictly Underground), Shifty ac Endaf hefyd ymhlith yr enwau o DJs lleol fydd yn perfformio ar y noson.

Cefnogir y noson gan Nyth, un o hyrwyddwyr cerddoriaeth annibynnol fwyaf Cymru, a Chymdeithas DJs Prifysgol Bangor.